Atal strôc/TIB arall
Ar ôl strôc mae yna risg uwch o gael un arall. Gall triniaethau helpu i atal hyn.
Unwaith y bydd rhywun wedi cael strôc neu TIB maen nhw'n fwy tueddol o gael un arall. Mae yna nifer o ragofalon y gellir eu cymryd i ostwng y risg o gael strôc arall. Gall y rhain gynnwys:
- gwneud yn siwr bod eich pwysedd gwaed yn cael ei reoli o fewn y terfynau diogel
- triniaethau â chyffuriau i sicrhau fod y gwaed yn llifo'n haws i'r ymennydd. Weithiau mae hyn mor syml â chymryd hanner aspirin y dydd, ond fe all gynnwys meddyginiaethau eraill os yr ydych ag alergedd i aspirin, neu yn dueddol o waedu'n hawdd, neu os bydd eich meddyg yn teimlo y byddech yn cael budd o driniaeth ychwanegol, neu os oes gennych rythm calon ansefydlog
- dilyn cyngor ar ffordd o fyw (gan gynnwys cyngor ar eich diet, cyrraedd pwysau boddhaol, ymarfer corff rheolaidd, rhoi'r gorau i ysmygu, gostwng faint o alcohol a halen yr ydych yn eu cymryd).
Cyhoeddiadau perthnasol sydd wedi eu hargraffu gan y Gymdeithas Strôc: