Beth yw strôc neu TIB
Mae strôc yn fath o anaf i'r ymennydd. Mae'r symptomau yn dibynnu ar ba ran o'r ymennydd sydd wedi cael ei effeithio.
Mae strôc yn fath o anaf i'r ymennydd. Mae bob strôc yn wahanol ac mae pobl sy'n cael strociau yn cael eu heffeithio mewn gwahanol ffyrdd, yn amrywio mewn dwyster o wellhad o fewn 24 awr, sy'n cael ei alw'n Drawiad Isgemig Byrbarhaol - neu TIB (Transient Ischaemic Attach - TIA) neu strôc bychan, i strôc all achosi niwed mwy difrifol. Mae symptomau yn dibynnu ar ba ran o'r ymennydd sy'n cael ei effeithio. Mae yna ddau brif fath o strôc:
- Mae'r math mwyaf cyffredin (strôc 'isgemig') yn digwydd pan fydd gwythiennau yn cael eu blocio gan glot neu yn rhy gul i'r gwaed fynd drwodd i'r ymennydd. Mae llif gostyngol y gwaed yn achosi i gelloedd yr ymennydd yn y man hwnnw i farw o ddiffyg ocsigen.
- Mewn strôc 'gwaedlifol', nid yw'r wythïen yn blocio ond mae'n byrstio ac mae gwaed yn gollwng i mewn i'r ymennydd gan achosi niwed.
Pan fydd strôc yn digwydd, mae rhai o gelloedd yr ymennydd yn cael eu difrodi ac mae eraill yn marw. Ni all celloedd yr ymennydd sy'n marw ddechrau gweithio eto. Fodd bynnag, fe all y rhai sydd y tu allan i fan y celloedd sydd wedi marw wella fel mae'r chwydd sy'n cael ei achosi gan y strôc yn mynd i lawr. Gall adferiad ddigwydd hefyd fel mae rhannau eraill o'r ymennydd yn cymryd drosodd gan y mannau sydd wedi marw.
Mae strôc yn effeithio pobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai pobl yn profi ychydig o effeithiau ysgafn sy'n gwella mewn amser byr (weithiau ychydig funudau neu oriau yn unig). Mae eraill yn dioddef nifer o effeithiau difrifol sy'n para am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Bydd effeithiau eich strôc yn dibynnu ar y rhan o'ch ymennydd sydd wedi cael ei anafu neu ei ddifrodi, pa mor ddrwg yw'r anaf, a'ch iechyd cyffredinol ar amser eich strôc. Gall adferiad barhau am sawl blwyddyn ar ôl y strôc.
Cyhoeddiadau perthnasol sydd wedi eu hargraffu gan y Gymdeithas Strôc: