Gofal uniongyrchol (ac atal cymhlethdodau)

Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty ar gyfer gofal ac asesiad cychwynnol.

Bydd y rhan fwyaf o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty ar gyfer gofal ac asesiad cychwynnol. Dylech dderbyn gofal mewn naill ai:


  • uned strôc neu ward pwrpasol ar gyfer cleifion gyda strôc, gyda phob/y rhan fwyaf o staff wedi eu hyfforddi i ofalu am gleifion strôc

  • uned neu ward sy'n gofalu am gleifion gydag ystod o gyflyrau, ond sydd wedi ei drefnu i gwrdd ag anghenion cleifion strôc. Er ni fydd bob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant arbenigol mewn gofal strôc, dylech gael mynediad at staff gyda gallu arbenigol i ofalu am strôc.

Os yr ydych yn derbyn gofal adref, fe ddylech chi a'ch gofalwyr dderbyn gwybodaeth am y gwasanaethau y gallech chi fod eu hangen (ee am y gwasanaethau brys sydd ar gael, trefniadau cyswllt am help a chyngor, mynediad sydyn a hawdd at wasanaethau strôc arbenigol).
Cyhoeddiadau perthnasol sydd wedi eu hargraffu gan y Gymdeithas Strôc: