Gwasanaethau
Gwasanaethau Iechyd ar gyfer Strôc
Mae ymchwil yn dangos fod yn well i'r gofal ar ôl strôc gael ei ddarparu gan dîm arbenigol.
Dylai fod gan eich gwasanaeth strôc lleol ganolfan ganolog ('uned strôc') sy'n rhan o'r gwasanaeth i gleifion mewnol. Efallai na fyddwch o angenrheidrwydd yn derbyn gofal yn y ganolfan ganolog ond mewn un neu fwy o amrywiaeth o osodiadau neu safleoedd a drefnir gan yr uned strôc. Efallai y bydd gofal yn cael ei ddarparu yn yr ysbyty, yn y gymuned, yn eich cartref chi, neu mewn cymysgedd o'r rhain i gyd. Lle bynnag y byddwch yn derbyn gofal, dylech dderbyn gofal gan ystod o weithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth arbenigol o strôc ac adferiad. Fe all eich tîm strôc gynnwys meddygon ysbyty, nyrsys, therapyddion, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr cefnogi gofal teulu a'ch Meddyg Teulu, pob un sy'n gweithio gyda'i gilydd fel tîm aml-ddisgyblaeth ac sy'n ymateb i'ch anghenion arbennig chi. Trafodir y penderfyniad i'ch derbyn i'r ysbyty neu i'ch rheoli adref yn yr adran ar driniaeth uniongyrchol.
Cyhoeddiadau perthnasol sydd wedi eu hargraffu gan y Gymdeithas Strôc: