Pam ei fod wedi digwydd
Gwyddwn beth yw nifer o'r ffactorau sy'n eich gwneud yn fwy tebygol o gael strôc, ond nid yw'n anarferol i strôc ddigwydd heb unrhyw achos amlwg
Gwyddwn beth yw nifer o'r ffactorau sy'n eich gwneud yn fwy tebygol o gael strôc, ond nid yw'n anarferol i strôc ddigwydd heb unrhyw achos amlwg. Mae rhai o'r ffactorau risg, fel hanes teuluol cryf o strôc, yn bethau na ellir eu newid.
Fodd bynnag, gellir rheoli pwysedd gwaed uchel (hypertension), clefyd siwgr (y clefyd melys), ysmygu, yfed gormod o alcohol, colesterol uchel a gordewdra (bod yn rhy drwm), clefyd y galon ac abnormaleddau'r system glotio yn y gwaed i ryw radd i isafu'r siawns o gael strôc.
Ffactorau Risg
- Oedran
- Geneteg
- Affricanaidd Caribïaidd
- Pwysedd gwaed uchel (hypertension)
- Clefyd Siwgr
- TIB
- Clefyd y galon/Ffibriliad Atrïaidd
- Chwyrnu
- Dull atal cenhedlu
- HRT
- Ysmygu
- Gordewdra
- Alcohol
Cyhoeddiadau perthnasol sydd wedi eu hargraffu gan y Gymdeithas Strôc: