Symptomau
Problemau posibl ar ôl strôc
Gall unrhyw beth mae'r ymennydd yn ei wneud gael ei effeithio o ganlyniad i strôc.
Yr ymennydd yw canolfan nerfol y corff, sy'n rheoli popeth yr ydym yn ei wneud neu ei feddwl yn ogystal â rheoli gweithrediadau awtomatig fel anadlu. Er mwyn gweithio, mae'r ymennydd yn dibynnu ar gyflenwad cyson o ocsigen a maetholion. Mae'r rhain yn cael eu cario i'r ymennydd gan y gwaed drwy'r rhydwelïau. Os yw'r ymennydd yn cael ei amddifadu o waed oherwydd strôc, mae celloedd yr ymennydd yn cael eu difrodi neu eu dinistrio. Mae hyn, yn ei dro, yn achosi nifer o wahanol effeithiau, yn dibynnu ar ba ran o'r ymennydd sydd wedi ei effeithio a faint o ddifrod sydd yna i feinwe'r ymennydd.
Mae strôc yn enw da oherwydd i'r rhan fwyaf o bobl mae'r symptomau yn dod yn llythrennol fel strôc. Mae symptomau allweddol yn cynnwys:
- diffyg teimlad sydyn, gwendid neu barlys ar un ochr y corff. Gall arwyddion o hyn gynnwys braich, goes neu lygad llipa neu ddriblo o'r geg.
- Lleferydd aneglur neu anhawster i ddod o hyd i eiriau neu ddeall lleferydd
- Golwg aneglur, neu aflonyddwch neu golled golwg, yn enwedig yn un llygad
- pendro, dryswch, ansefydlogrwydd a/neu gur pen drwg.
Cyhoeddiadau perthnasol sydd wedi eu hargraffu gan y Gymdeithas Strôc: