Cafodd Arnot Hughes, sy’n 74 oed o Landaf, Caerdydd, strôc ym mis Chwefror 2020, ychydig cyn i bandemig y coronafeirws orfodi cyfnod clo cenedlaethol.

Gadawodd yr ysbyty ar ôl 10 niwrnod gydag anhawster cyfathrebu sy’n gyffredin ar ôl strôc, sef affasia. “Doeddwn i ddim yn gallu siarad o gwbl pan adawes i’r ysbyty. Fe ges i chwe wythnos o therapi lleferydd ac iaith ar-lein, ond roedd ar gael yn Saesneg yn unig ac nid oedd yn ddigon.

Rwy’n ddwyieithog ond Cymraeg yw’r iaith dwi’n ei siarad o ddydd i ddydd. Daeth fy Saesneg ymlaen yn gynt oherwydd y sesiynau Zoom ar-lein, ond roeddwn i’n cael trafferth siarad Cymraeg gyda fy nheulu.

“Dim ond trwy ddyfalbarhad fy ngwraig dwi wedi gallu dechrau siarad Cymraeg. Dywedodd yr ysbyty wrtha i nad oedd gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg, felly ei gwaith ymchwil hi oedd wedi fy helpu i wella. Rydyn ni’n ymarfer fel teulu, ond byddai wedi bod gymaint yn fwy buddiol cael therapi lleferydd ac iaith yn Gymraeg. Mae dyfalbarhad yn allweddol ac fe alla’ i weld y gwelliannau dwi wedi’u gwneud, ond mae wedi bod yn anodd iawn.”

Helpodd Arnot i gychwyn y Grŵp Paned a Sgwrs a sefydlwyd yn ddiweddar yn rhan o brosiect Camau Cymunedol y Gymdeithas Strôc. Grŵp cymorth gan gymheiriaid anffurfiol ydyw ar gyfer pobl ledled Cymru sydd eisiau sgwrsio yn Gymraeg. 

Dywedodd Arnot, “Mae’n dda gallu siarad Cymraeg â’m cyfoedion a chael cyfle i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg bob dydd gyda goroeswyr strôc eraill sydd wedi cael profiad tebyg i mi. Gobeithio y bydd yn helpu eraill sydd eisiau cyfathrebu mwy yn Gymraeg i wella hefyd.”

Mae’r Gymdeithas Strôc yn cynnig nifer o wasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys gwybodaeth a’r offeryn gwybodaeth strôc ar-lein “Fy Nghanllaw Strôc”, ac mae’r llinell gymorth strôc yn cynnig gwasanaeth dychwelyd galwad gan siaradwr Cymraeg.