Cyf: V188 | Cymru | Fe fyddwch yn gwirfoddoli oddeutu chwe awr y mis
Rydym yn chwilio am o leiaf deg o Gysylltwyr Cymunedol dros 18 mlwydd oed, sydd wedi’u lleoli mewn amrywiol leoliadau ledled Cymru, yn cynnwys Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Phowys.
Fe fyddwch yn gwirfoddoli oddeutu chwe awr y mis. Mae’r dyddiadau a’r amseroedd i’w cytuno â’r gwirfoddolwr.
Gallai’r gwirfoddolwyr fod yn:
- Darparu cymorth gwerthfawr i’n timau a leolir yn y rhanbarth.
- Magu perthnasoedd â phobl a sefydliadau i godi ymwybyddiaeth o strôc a’r Gymdeithas Strôc.
- Ymgysylltu â’ch cymuned leol i gynrychioli’r Gymdeithas Strôc; gallai hyn gynnwys traddodi cyflwyniadau neu sgyrsiau naill ai wyneb yn wyneb neu’n ddigidol.
- Rhannu’ch gwybodaeth a’ch profiad o strôc gydag eraill.
- Ymchwilio a chasglu gwybodaeth yn ymwneud â gwasanaethau bywyd ar ôl strôc.
- Cynorthwyo’r broses o recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr.
- Mynychu digwyddiadau codi arian, yn cynnwys casglu rhoddion.
*Er y byddem wrth ein bodd petaech yn gallu gwneud yr holl orchwylion hyn, byddwn yn fodlon iawn derbyn ymholiadau gennych os gallwch ddarparu cymorth addas detholus.
Beth y gall y rôl ei chynnig i chi’n bersonol:
- Dysgu a datblygu sgiliau newydd.
- Cyfarfod â phobl newydd, adeiladu rhwydwaith ac ymgysylltu â’ch cymuned leol.
- Cyfle i gyfarfod (naill ai wyneb yn wyneb neu’n ddigidol) â gwirfoddolwyr eraill o Gymru.
- Gwahoddiadau i ymuno â digwyddiadau gwirfoddoli cenedlaethol i rwydweithio a rhannu profiadau.
Nid oes angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y rôl hon ond mae angen gwiriad PVG yn yr Alban.
Diddordeb yn y rôl hon?
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, cwblhewch ein ffurflen gais ac anfonwch hi at colin.evans@stroke.org.uk.
Mae arnom eisiau gostwng rhwystrau i gynhwysiant. Helpwch ni i ddeall pwy sy’n ymgeisio am, ac yn cael, rolau gyda ni drwy gwblhau’n Ffurflen Cyfle Cyfartal, os gwelwch yn dda.
Mae hyn yn ein helpu i barhau i nodi unrhyw beth sy’n llesteirio pobl sy’n ystyried ymuno â ni. Nid yw’r wybodaeth hon yn ffurfio rhan o’ch cais.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Colin Evans, Swyddog Ymgysylltu, Cymru ar 07984 357191 neu colin.evans@stroke.org.uk.
Amdanom
Cymdeithas Strôc. Ailadeiladu bywydau ar ôl strôc.
Pan fo strôc yn taro, mae rhan o’ch ymennydd yn cau. Fel yn wir y gwna rhan ohonoch chi. Mae hynny oherwydd bod strôc yn digwydd yn yr ymennydd, y ganolfan reoli ar gyfer pwy rydym a’r hyn y gallwn ei wneud. Mae’n digwydd bob pum munud yn y Deyrnas Unedig ac mae’n newid bywydau ar amrantiad. Mae adferiad yn galed, ond gyda’r cymorth arbenigol iawn a llwyth mawr o ddewrder a phenderfyniad, gall yr ymennydd ymaddasu.
Credwn fod pawb yn haeddu byw’r bywyd gorau y gallant ar ôl strôc. Ac mae’n ymdrech tîm i gyflawni hynny.
Darparwn gymorth arbenigol, rydym yn ariannu ymchwil hanfodol ac yn ymgyrchu i sicrhau y caiff pobl yr effeithir arnynt gan strôc y gofal a’r cymorth gorau un i ailadeiladu’u bywydau.
Gweithiwn i wella amrywiaeth ein tîm. Oherwydd y gwyddom fod unigoliaeth yn arwain at brofiad cyfoethocach i’n pobl ac at well cymorth i’r rheiny yr effeithir arnynt gan strôc.
Rydym yn annog pobl yn gryf o bob cefndir i ymgeisio. Ac rydym yn neilltuol yn ceisio cynyddu nifer y ceisiadau gan y rheiny sydd â phrofiad byw o strôc a’r rheiny o gymunedau na chânt eu cynrychioli’n ddigonol.
Bob pum munud, mae strôc yn dinistrio bywydau. Helpwch ni i’w hailadeiladu, ac ymunwch â’n tîm.
Yn 2019, gwnaethom ddatblygu strategaeth gorfforaethol newydd feiddgar fel ein bod yn gallu ailadeiladu mwy o fywydau ar ôl strôc a gwneud mwy o wahaniaeth i fywydau pobl.
I’n helpu i gyflenwi’n strategaeth ac i wneud gwahaniaeth go iawn, rydym yn bwriadu recriwtio pobl ddawnus i nifer o rolau newydd.
Os hoffech gynorthwyo goroeswyr strôc i ailadeiladu’u bywydau, mae arnom eisiau clywed gennych!