Published date
News type
National news

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n atgoffa unrhyw oroeswyr strôc i gael eu gwarchod rhag y ffliw gyda brechiad am ddim gan y GIG os nad ydynt wedi cael un eto y gaeaf yma.

Mae’r ffliw i’w weld ledled Cymru yn awr ac mae nifer yr achosion yn cynyddu. Felly mae’n bwysig cofio mai brechiad y ffliw yw’r ffordd orau o hyd o warchod rhag dal y ffliw ac mae brechiadau ar gael o hyd ac yn cynnig gwarchodaeth.                  

Mae pobl sydd wedi cael strôc neu ymosodiad isgemaidd dros dro (TIA), yn fwy tebygol o ddal heintiau fel niwmonia os byddant yn dal y ffliw. Felly dylent ofyn am gyngor o’u meddygfa oherwydd efallai y rhoddir meddyginiaeth wrth-feirol i helpu.    

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi cael y ffliw eisoes y gaeaf yma, ond yn gymwys am frechiad y ffliw am ddim gan y GIG ac wedi colli eich brechiad y tymor yma, mae’n syniad da cael y brechiad o hyd, oherwydd bydd yn helpu i warchod rhag straen arall o’r ffliw.

Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi ffliw, y cyngor yw yfed digon o hylifau, cymryd paracetamol neu ibuprofen ac osgoi cyswllt ag unigolion agored i niwed tra mae gennych chi’r symptomau, sy’n gwella mewn rhyw wythnos fel rheol. Nid oes raid i’r rhan fwyaf o bobl fynd i weld eu meddyg teulu. Dylai pobl sy’n poeni bod eu symptomau’n gwaethygu ffonio eu meddyg teulu neu linell Galw Iechyd Cymru am gyngor ac ni ddylent fynd i’r adran Gwasanaethau Brys oni bai eu bod yn cael cyngor i wneud hynny. Dylech oedi cyn cael brechiad y ffliw nes eich bod yn teimlo ychydig yn well a’ch tymheredd wedi setlo.         

I helpu i leihau’r siawns o ledaenu’r ffliw, dylai pobl wneud y canlynol:

  • Ei ddal: cofiwch besychu neu disian i mewn i hances bapur bob amser
  • Ei daflu: rhowch yr hances bapur mewn bin ar ôl ei defnyddio
  • Ei ddifa: wedyn golchwch eich dwylo neu ddefnyddio diheintydd dwylo i ladd unrhyw feirysau ffliw

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy trwy Frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae ffliw yn gallu bod yn ddifrifol iawn a phob blwyddyn mae pobl yng Nghymru’n cael eu derbyn i ysbytai neu i unedau gofal dwys gyda’r ffliw. Y llynedd yn yr unedau gofal dwys yng Nghymru roedd 74 o gleifion gyda ffliw wedi’i gadarnhau. 

“Brechiad yw’r ffordd unigol orau o hyd o warchod rhag dal y fliw, ac mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns o’i ledaenu. Dydi hi ddim yn rhy hwyr i gael brechiad y ffliw, felly os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi’n feichiog neu’n 65 oed neu’n hŷn a heb gael brechiad y ffliw eto y gaeaf yma, cysylltwch â’ch meddygfa neu eich fferyllfa gymunedol a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei gael cyn gynted â phosib.”

Mae rhagor o gyngor ar gael ar wefan Galw Iechyd Cymru neu ar 0845 46 47.

Rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i Curwch Ffliw neu Beat Flu neu drwy chwilio am Curwch Ffliw neu Beat Flu ar Twitter a Facebook.