Published date
News type
Statements and responses

Published: 15 February 2018

Ar ddydd Gwener 22 Chwefror, pleidleisiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddigomisiynu cyllid ar gyfer gwasanaeth adferiad strôc yr ardal. Mae’r Gymdeithas Strôc, sydd yn rhedeg y gwasanaeth, wedi datgan siom ar y penderfyniad hwn.

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi goroeswyr dros y sir sy’n addasu i fywyd yn yr wythnosau a misoedd cynnar ar ôl strôc. Pleidleisiodd y cyngor i gefnogi adroddiad oedd yn argymell torri £18,000 y flwyddyn oedd yn cael ei gyfrannu at y gwasanaeth ar gyfer 2018/19. Mae hyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori pan leisiodd sawl preswylydd gwrthwynebiad i’r toriad.

Mae’r Gymdeithas Strôc er hyn wedi derbyn cadarnhad bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn parhau i ariannu’r gwasanaeth strôc yng Ngwent yn 2018-19 er y toriad. Mae hyn yn golygu bydd y gwasanaeth yng Nghaerffili yn parhau am 12 mis. Mae cabinet cyngor Caerffili hefyd wedi ymrwymo i gwrdd â’r bwrdd iechyd i drafod dyfodol y contract hwn ac eraill yn yr ardal.

Yn siarad o bencadlys Cymreig y Gymdeithas Strôc yng Nghaerffili, dywedodd Ross Evans, cyfarwyddwr dros-dro yr elusen:

“Yr ydym wedi ein siomi gyda phenderfyniad y cyngor i beidio â pharhau i ariannu'r gwasanaeth adferiad strôc. Ddaru y nifer o bobl a gymerodd rhan yn ein hymgyrch yn erbyn y toriad dangos gwerth y gwasanaeth i oroeswyr a’u teuluoedd. Strôc yw’r prif reswm dros anabledd mewn oedolion ac mae’r help rydym yn cynnig yn allweddol i atal anghenion pobl rhag waethygu a rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus.         

“Er hynny, mae’n newyddion gwych bod y bwrdd iechyd wedi cytuno i ariannu ein gwasanaeth dros Gwent am y flwyddyn sydd i ddod. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu parhau dros y 12 mis nesaf i gefnogi goroeswyr strôc dros Gaerffili sydd wir angen ein cymorth.

“Diolch i bawb sydd wedi cefnogi ein hymgyrch. Rydym hefyd yn croesawu ymroddiad y cabinet i gwrdd â’r bwrdd iechyd i drafod cynaliadwyedd hir dymor gwasanaethau fel y rhai rydym yn eu cynnig.”