Stroke Community Steps

Golf, painting, sailing and bowls were among the activities stroke survivors and or carers got involved with, as part of our Wales-wide Stroke Community Steps project.

One stroke survivor who gained confidence and feels less isolated after joining some accessible golfing sessions is 66-year-old John Manning from Abergele. John was a busy electrician and keen golfer before a stroke affected his speech and mobility in 2017.

He said “Going to the golf sessions is fantastic. I didn’t think I would ever play again, but the pro has been great and now I go back to my old club. “It’s also about being with other people who understand, and when I meet with people who are finding things hard after a stroke, I want to see what I can do to help them.”

Our research shows that a fifth of stroke survivors find the emotional impact of their stroke the hardest to deal with, and is most misunderstood by those people around them.

Stroke survivors also tell us that they need support to get back out into their communities so that they don’t end up prisoners in their own homes.

A fifth of survivors feel that the emotional impact of stroke was hard to deal with. So we want to help them to grow in confidence so that they can create stroke-friendly communities and gain support from each other. ‘They will have the chance to volunteer and help those who’ve recently had a stroke – as they are the experts.

Llinos Wyn Parry, Engagement Lead Wales

Golfing Pro Dylan Williams has led the Pyle and Kenffig Golf Club sessions as part of the project and has learned a lot about how to best support stroke survivors. 

“I’ve learned so much working with this group. Everyone who attends is dealing with different issues due to their stroke, but they’ve all found a way - it's been so rewarding for all of us to see the progress, and the determination in the group. Other players could learn a lot from them.”

Stroke Survivours were able to sign up for sport and art sessions and join coffee meet-ups and groups ran by our four project officers across Wales.

Stroke Community Steps, funded by The National Lottery Community Fund, ran from 01 April 2018 to 31 March 2022.

We would like to take this opportunity to say a massive thank you to the Community Steps team, our beneficiaries, our volunteers, group and club members and organisers, our external partners, the National Lottery and various colleagues within the Stroke Association for all their support over the past four years and we look forward to working with you again in the near future.

Join the Online Community

If you’re a stroke survivor or carer in Wales, you can still join the Stroke Community Steps group on the Online Community, a forum for peer support and offers you the chance to discuss life after stroke.

Further information about opportunities to get involved are shared on our Wales Twitter and Facebook pages.

Volunteers are key in supporting the success of this project by assisting with our activities.  If you or somebody you know are interested in volunteering with us, or signing up for any of our events, please get in touch.

The project team can be contacted on 01745 508531 or CommunityStepsWales@stroke.org.uk

To get up-to-date information on all the charity’s latest campaigns and policy work in support of stroke, sign up to our Campaigns Network to receive information, updates and actions you can take to support our work.

Newsletter

Download our Community Steps newsletter for March 2022 here: English version

Wales lottery logo

Camau Cymunedol Strôc

Roedd golff, peintio, hwylio a bowlio ymhlith y gweithgareddau y bu goroeswyr strôc a/neu ofalwyr yn rhan ohonynt, fel rhan o’n prosiect Camau Cymunedol Strôc Cymru gyfan.

Un goroeswr strôc a gafodd hyder ac sy'n teimlo'n llai unig ar ôl ymuno â rhai sesiynau golff hygyrch yw John Manning, 66 oed o Abergele. Roedd John yn drydanwr prysur ac yn golffiwr brwd cyn i strôc effeithio ar ei leferydd a’i symudedd yn 2017.

Dywedodd “Mae bod yn rhan o'r sesiynau golff yn wych. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i byth yn chwarae eto, ond mae'r pro wedi bod yn wych ac rydw i nawr yn mynd yn ôl at fy hen glwb. Mae o hefyd yn ymwneud â bod gyda phobl eraill sy'n deall, a phan fyddaf yn cwrdd â phobl sy'n gweld pethau'n galed ar ôl strôc, rwyf am ddarganfod beth y gallaf ei wneud i'w helpu."

Mae ein hymchwil yn dangos bod un allan o bump o oroeswyr strôc yn canfod mai effaith emosiynol eu strôc yw'r peth mwyaf anodd i ddelio ag ef, a bod y bobl o'u cwmpas yn eu camddeall.

Mae goroeswyr strôc hefyd yn dweud wrthym fod angen cymorth arnynt i ddychwelyd i'w cymunedau er mwyn sicrhau nad ydynt yn dod yn garcharorion yn eu cartrefi eu hunain.

Mae un mewn pump o oroeswyr yn teimlo ei bod yn anodd delio ag effaith emosiynol strôc. Felly rydym eisiau eu helpu i fagu hyder er mwyn iddynt allu creu cymunedau sy'n gyfeillgar i strôc ac sy’n cynnig cefnogaeth. Bydd hefyd yn gyfle iddynt wirfoddoli a helpu'r rhai sydd wedi cael strôc yn fwy diweddar - gan mai nhw yw'r arbenigwyr.

Llinos Wyn Parry, Arweinydd Ymgysylltu Cymru

Mae’r arbenigwr golff, Dylan Williams wedi arwain sesiynau Clwb Golff y Pîl a Kenffig fel rhan o'r prosiect ac mae wedi dysgu llawer am y ffordd orau o gefnogi goroeswyr strôc.

Meddai: "Rydw i wedi dysgu cymaint yn gweithio gyda'r grŵp hwn. Mae pawb sy'n mynychu yn delio â gwahanol faterion oherwydd eu strôc, ond maent i gyd wedi dod o hyd i ffordd o chwarae - mae wedi bod yn fuddiol i bob un ohonom weld y dyfal parhad a’r hunan ewyllys yn y grŵp. Gallai chwaraewyr eraill ddysgu llawer oddi wrthynt."

Roedd goroeswyr strôc yn gallu cofrestru ar gyfer sesiynau chwaraeon a chelf ac ymuno â chyfarfodydd a grwpiau coffi a gynhaliwyd gan ein pedwar swyddog prosiect ledled Cymru.

Rhedodd Camau Cymunedol Strôc, a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rhwng 01 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2022.

Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr iawn i dîm Camau Cymunedol, ein buddiolwyr, ein gwirfoddolwyr, aelodau a threfnwyr grwpiau a chlybiau, ein partneriaid allanol, y Loteri Genedlaethol a chydweithwyr amrywiol o fewn y Gymdeithas Strôc am eu holl gefnogaeth dros y pedair blynedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi eto yn y dyfodol agos.

Ymunwch â'r gymuned

Os ydych chi'n oroeswr strôc neu'n ofalwr yng Nghymru, gallwch ymuno â grŵp Camau Cymunedol Strôc ar Fy Nghanllaw Strôc, gwefan sy'n rhannu gwybodaeth ac yn cynnig cyfle i chi drafod bywyd ar ôl strôc.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i gymryd rhan yn cael eu rhannu ar ein tudalennau Twitter a Facebook yng Nghymru.

Mae gwirfoddolwyr yn allweddol i gefnogi llwyddiant ein prosiectau trwy gynorthwyo gyda'n gweithgareddau. Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, neu gofrestru ar gyfer unrhyw un o'n digwyddiadau, cysylltwch â ni.

Gellir cysylltu â thîm y prosiect ar 01745 508531 neu CommunityStepsWales@stroke.org.uk

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl ymgyrchoedd a gwaith polisi yr elusen i gefnogi strôc, ymunwch â'n Rhwydwaith Ymgyrchoedd i dderbyn gwybodaeth, diweddariadau a chamau y gallwch eu cymryd i gefnogi ein gwaith.

Cylchlythyr

Lawrlwythwch ein cylchlythyr Camau Cymunedol ar gyfer mis Mawrth 2022: Welsh version.